Ydych chi’n teimlo’n fwy cyfforddus yn siarad Cymraeg?
Am wersi gyrru trwy gyfrwng y Gymraeg ffoniwch Iwan ar 07875046923,
neu pan yn ffonio’r swyddfa am ddim ar 0800 040 7430, gwnewch yn siwr eich bod yn gofyn am wersi trwy’r gymraeg gyda Iwan.
“Athro rili da, hynod o gyfeillgar. Wastad yn dysgu rwbeth mewn gwersi a wedi passo’r test mewn dim amser gyda dim ond ychydig o minors.. Wedi argymell ti i lot o bobl… Na pa mor impressed o ni!!”
Elen
“‘Ro’wn i’n hapus iawn gyda’r gwersi gyrru a gefais i gydag Iwan. Fe dreuliais i ryw 8 mis yn dysgu sut i yrru ac mi oedd e bob amser yn amyneddgar gen i – hyd yn oed pan o’wn i’n gwneud y camgymeriadau mwyaf hyrt allwch chi ddychmygu. Wrth edrych ‘nol, ‘dw i hefyd yn falch wnaeth e ‘ngwthio i. Er enghraifft, pan oedd yna dywydd anghredadwy o wael a ro’wn i’n digon barod i ganslo’r wers, ro’dd ef yna’n barod i roi hwb ymlaen imi fel bod modd imi gael mwy o brofiad ar y ffordd ac i ddatblygu’m hyder fel gyrrwr. Pe bawn i’n gwneud camgymeriad hyrt, ‘roedd e bob amser yn rhoi sylwadau ar sut allwn ni osgoi’r un camgymeriad yn y dyfodol, ac ar ddiwedd bob gwers, ro’dd e’n onest o ran yr hyn a wnes i’n anghywir, ond hefyd yn barod i roi clod – ro’dd hwn yn rhywbeth wnaeth wneud imi deimlo’n fwy hyderus wrth eistedd wrth llyw’r car. Byddwn i’n ei argymell i unrhyw un. Mae ganddo steil anffurfiol wrth ddysgu, sy’n dda, ac mae e hefyd yn hyblyg o ran ffitio gwersi i mewn rhwng ymrwymiadau eraill ei fyfyrwyr. Ac wrth gwrs, mae’r ffaith ei fod yn gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg – neu’r ddwy iaith – yn fonws!”
Cerith
