Ydych chi’n teimlo’n fwy cyfforddus yn siarad Cymraeg?

“Athro rili da, hynod o gyfeillgar. Wastad yn dysgu rwbeth mewn gwersi

“Athro rili da, hynod o gyfeillgar. Wastad yn dysgu rwbeth mewn gwersi a wedi passo’r test mewn dim amser gyda dim ond ychydig o minors.. Wedi argymell ti i lot o bobl… Na pa mor impressed o ni!!”
Elen

 

“‘Ro’wn i’n hapus iawn gyda’r gwersi gyrru a gefais i gydag Iwan. Fe dreuliais i ryw 8 mis yn dysgu sut i yrru ac mi oedd e bob amser yn amyneddgar gen i – hyd yn oed pan o’wn i’n gwneud y camgymeriadau mwyaf hyrt allwch chi ddychmygu. Wrth edrych ‘nol, ‘dw i hefyd yn falch wnaeth e ‘ngwthio i. Er enghraifft, pan oedd yna dywydd anghredadwy o wael a ro’wn i’n digon barod i ganslo’r wers, ro’dd ef yna’n barod i roi hwb ymlaen imi fel bod modd imi gael mwy o brofiad ar y ffordd ac i ddatblygu’m hyder fel gyrrwr. Pe bawn i’n gwneud camgymeriad hyrt, ‘roedd e bob amser yn rhoi sylwadau ar sut allwn ni osgoi’r un camgymeriad yn y dyfodol, ac ar ddiwedd bob gwers, ro’dd e’n onest o ran yr hyn a wnes i’n anghywir, ond hefyd yn barod i roi clod – ro’dd hwn yn rhywbeth wnaeth wneud imi deimlo’n fwy hyderus wrth eistedd wrth llyw’r car. Byddwn i’n ei argymell i unrhyw un. Mae ganddo steil anffurfiol wrth ddysgu, sy’n dda, ac mae e hefyd yn hyblyg o ran ffitio gwersi i mewn rhwng ymrwymiadau eraill ei fyfyrwyr. Ac wrth gwrs, mae’r ffaith ei fod yn gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg – neu’r ddwy iaith – yn fonws!”
Cerith